Y Pwyllgor Cyllid

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mercher, 30 Mai 2012

 

 

 

Amser:

09:20 - 12:00

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_300000_30_05_2012&t=0&l=cy

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Jocelyn Davies (Cadeirydd)

Peter Black

Christine Chapman

Paul Davies

Mike Hedges

Ann Jones

Julie Morgan

Ieuan Wyn Jones

 

 

 

 

 

Tystion:

 

 

Alan Davies y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd, i’r cyfarfod

Jonathan Price, WEFO

Damien O’Brien, WEFO

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Helen Finlayson (Clerc)

Daniel Collier (Dirprwy Glerc)

Eleanor Roy (Ymchwilydd)

Tom Jackson (Clerc)

Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

 

<AI1>

1.  Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

</AI1>

<AI2>

2.  Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd, i’r cyfarfod.

 

2.2 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Dirprwy Weinidog.

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·      Manylion am yr hyfforddiant a gafodd staff Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar roi cyngor i noddwyr prosiectau ynghylch y broses gaffael.

·      Nodyn i’r Pwyllgor yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn nhrafodaethau Llywodraeth Cymru â’r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch mynd i’r afael â materion cyfreithiol a thechnegol sy’n berthnasol i ffynhonnell gyllido JESSICA, sef y rhaglen Cyd-gymorth Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi Cynaliadwy mewn Ardaloedd Dinesig.

·      Rhagor o fanylion am y trafodaethau sydd i ddod gyda’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni ar yr effaith y gallai’r gyfradd gyfnewid ei chael ar brosiectau ac ar sut y gellir rheoli risgiau posibl.

 

</AI2>

<AI3>

3.  Papurau i'w nodi

3.1 Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Scottish Futures Trust.

 

3.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 24 Mai 2012.

 

</AI3>

<AI4>

4.  Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5 a 6.

 

</AI4>

<AI5>

5.  Trafod y dystiolaeth - Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â’i ymchwiliad i effeithiolrwydd cyllid strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru.

 

</AI5>

<AI6>

6.  Cyllid datganoledig: pwerau benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf  - tystiolaeth allweddol a themâu sy’n dod i’r amlwg

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod tystiolaeth allweddol a themâu sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas â’i ymchwiliad i gyllid datganoledig: pwerau benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf.

 

</AI6>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>